Covid-19

21 Ebrill 2021

Cau Ardal Wersylla Storey Arms – Haf 2021

Fel gyda phob canolfan awyr agored, mae Canolfan Storey Arms wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu ailagor ar gyfer ymweliadau dydd yn y dyfodol agos, gydag ymweliadau preswyl yn fuan wedyn.

Byddwn yn gweithredu o fewn yr holl ganllawiau a argymhellir i sicrhau ein bod yn ddiogel rhag Covid ac mae hyn yn golygu y bydd angen i ni wneud defnydd llawn o’r adnoddau dan do ac awyr agored sydd gennym yn y ganolfan. Mae hyn yn cynnwys yr ardal wersylla, y lloches wersylla a thoiledau allanol.

Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn teimlo pe byddem yn croesawu grwpiau gwersylla i’r ganolfan, y byddai rheoli’r cyfleusterau’n mynd yn fwy cymhleth byth.

Am y rheswm hwnnw, rydym wedi penderfynu’n anfoddog ein bod yn mynd i gau’r ardal wersylla yr haf hwn i grwpiau allanol.

Gobeithio eich bod yn deall ein safbwynt.  Mae gwir angen i ni flaenoriaethu ein rhaglen waith ac yn anffodus, nid yw’r ardal wersylla yn rhan fawr o’n gwaith.

Mae’n bosibl y gallwch ddod o hyd i gyfleusterau gwersylla eraill yn y lleoliadau canlynol, y mae’r ddau ohonynt wedi’u lleoli o fewn taith gerdded fer i lawr Drovers’ Road o’r Storey Arms.

Hostel Ieuenctid Bannau Brycheiniog  Libanus, Aberhonddu LD3 8NH Cyfeirnod Grid AO SN973225

breconbeacons@yha.org.uk     YHA Brecon Beacons Hostel | Brecon Beacons Campsite & Accommodation

Fferm Blaen Glyn  Libanus, Aberhonddu LD3 8NF   Cyfeirnod Grid AO SN 977227  Cyfleusterau: Dŵr/Tai Bach

01874 625072

 

Rydym yn gwerthfawrogi eich diddordeb mewn aros gyda ni ac yn gobeithio eich croesawu’n ôl i Ardal Wersylla Storey Arms yn 2022.

Cadwch yn ddiogel ac yn iach.

Andy Meek, Pennaeth y Ganolfan

20 Iau 2020

DEWCH I FANNAU BRYCHEINIOG YN DDIOGEL

Gweler Cod Ymddygiad Bannau Brycheiniog a luniwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i bartneriaid.

 

I gael rhagor o wybodaeth ewch I

Home

 Rydym yn gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn cadw’n ddiogel ac yn iach.

Diogelu Cymru

24 Gorffennaf 2020

COVID 19 AILAGOR Y STOREY ARMS FESUL CAM

Storey Arms Centre Phased approach Cym

Rydym yn gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn cadw’n ddiogel ac yn iach.

Diogelu Cymru

24 Mehefin 2020

Cliciwch ar y dolenni isod i weld ein newyddion Covid-19 diweddaraf a’r paratoadau rydym yn eu gwneud i ailagor y ganolfan

Diweddariad Covid-19 Mehefin 2020 Cym

Rydym yn gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn cadw’n ddiogel ac yn iach.

Arhos yn lleol a diogelu Cymru

15 Mai 2020

Cofiwch fod y llwybrau cerdded yn ardaloedd poblogaidd Bannau Brycheiniog dal ar gau.

Gweler y neges gan Lywodraeth Cymru:

Pam nad yw teithio i Gymru yn opsiwn – nodyn pwysig i’ch atgoffa

Rydym yn gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn cadw’n ddiogel ac yn iach.

23 Mawrth 2020

Ein hymateb i’r achos presennol o Coronafeirws (Covid-19)

Ar 23 Mawrth 2020, o ganlyniad i gyngor Llywodraeth y DG a Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Canolfan Storey Arms wedi atal pob cwrs.

Mae ein tîm staff bellach yn gweithio o gartref, oni bai eu bod yn helpu Cyngor Caerdydd gyda gwasanaethau hanfodol yn ardal Caerdydd, lle bo’n briodol.

Rydym eisoes wedi dechrau cysylltu ag ysgolion a grwpiau a oedd wedi bod yn cynllunio i ddod i’r ganolfan. Os nad ydych wedi clywed gennym eto, byddwch yn amyneddgar.

Yn ymarferol:

Os oes angen i chi siarad â ni, cysylltwch â ni drwy e-bost ar storeyarms@caerdydd.gov.uk neu defnyddiwch un o’n ffurflenni cyswllt ar ein tudalen cysylltu â ni. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn rhoi sylw manwl i’r cyngor gan Gyngor Caerdydd a holl ffynonellau perthnasol y Llywodraeth, i ddatblygu ein hymateb i’r sefyllfa newidiol hon.

Rydym yn gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn cadw’n ddiogel ac yn iach.

Byddwch yn ymwybodol bod cyfyngiadau llym ar fynediad i’r mynyddoedd o fewn y Parc Cenedlaethol.   Edrychwch ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog www.breconbeacons.org a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru www. cymorth cyfoethnaturiol.cymru i gael gwybodaeth am gau llwybrau, meysydd parcio, ac ati.

Cefnogwn gyngor y Llywodraeth bod gyrru i wneud taith gerdded yn cael ei ystyried yn deithio nad yw’n hanfodol – cerddwch o’ch cartref.

© Storey Arms - Website designed by Cardiff Council Web Team

Cookie policyPrivacy policy