Mae nifer o weithgareddau ar gael o fewn a gerllaw tiroedd y ganolfan. Defnyddir y rhain fel arfer fel rhan o’n rhaglen gweithgareddau gyda’r nos i grwpiau preswyl neu fel rhan o’r Diwrnodau Gweithgareddau yn y Ganolfan, sydd ar gael i grwpiau o bob oed.
Tŵr Dringo – mae hwn yn dŵr 3 ochr, 7 metr o uchder yng nghefn yr adeilad gyda llwyfan abseilio
Tasgau datrys problemau ac adeiladu tîm – detholiad o dasgau wedi’u lleoli o amgylch y tiroedd
Llwybr Rhaffau – llwybr rhaffau sefydlog trwy goedwig i’w defnyddio gyda’r nos neu yn ystod y dydd
Cyrsiau Cyfeiriannu – mae gennym gwrs syml ar y safle ac un mwy anturus yn y dyffryn islaw safle’r Ganolfan
Chwilio ac Achub – gallwn gynnal ymarfer chwilio ac achub sylfaenol, gan gynnwys cario stretsier, mewn ardal amgaeedig gerllaw’r Ganolfan.