Trafnidiaeth

Mae’r ganolfan yn gweithredu fflyd o fysus mini o wahanol feintiau i ddarparu trafnidiaeth yn ystod ei rhaglenni.  Cyfrifoldeb y grŵp yw trafnidiaeth i’r ganolfan ac oddi yno.

Mae detholiad o drelars ar gael i gludo caiacau, canŵs a rafftiau yn ogystal â bagiau os oes angen.

Mae’r holl fysus mini a threlars yn cael eu harchwilo’n rheolaidd ac yn cael eu gwasanaethu yn unol â chynllun gweithredu trafnidiaeth Cyngor Caerdydd.

Dim ond hyn a hyn o lefydd parcio sydd yn y ganolfan ond mae maes parcio cyhoeddus mawr gyferbyn.

Mae’n bosibl defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i Ganolfan Storey Arms drwy Aberhonddu neu Ferthyr Tudful.  Defnyddiwch wefan Traveline Cymru i gael gwybod mwy.

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd