


Full 3
Full 3
Full 3
Diolch am eich amynedd.
Mae Storey Arms yn ganolfan addysg antur awyr agored wedi ei lleoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth droed Pen y Fan.
Gallwn sicrhau croeso cynnes a chyfeillgar i chi gan ein tîm o staff ymroddgar a phroffesiynol. Gallwn eich cynorthwyo i drefnu’r profiad a’r gweithgaredd dysgu perffaith i chi.
“Diolch am wythnos wych! Roedd yn brofiad gwych a byddwn yn cofio hyn am weddill ein bywydau”
Disgybl o Ysgol Annibynnol Santes Fair
“Roedd e’n ddifyr iawn! Roedd yn brofiad gwahanol i’r hyn rydym wedi’i wneud o’r blaen. F wnaethon ni wynebu ein hofnau!”
Grŵp C – Ysgol Howell, Caerdydd
“Fe wnaethon ni ddysgu sut i weithio ynghyd a gwella ein sgiliau cymdeithasol a fydd yn ein helpu yn y dyfodol.”
Disgyblion o Ysgol Greenhill, Caerdydd
‘Diolch am ymweliad gwych arall! Cafodd y plant a’r staff amser gwych gyda llawer o weithgareddau gwahanol a heriol. Roedd y bwyd yn flasus iawn yn ôl yr arfer ac roedd yr holl staff yn gyfeillgar a chroesawgar. Rydych chi i gyd yn gwneud jobyn gwych ac yn rhoi profiadau i blant na fydden nhw fel arall yn eu cael. Bydd y plant yn cofio ac yn siarad am yr ymweliad hwn am flynyddoedd i ddod. ‘
Athro o Ysgol Gynradd Tredegarville
‘Ein prif amcanion i’n disgyblion ar yr ymweliad preswyl hwn oedd 1) Datblygu gwaith tîm 2) Datblygu Annibyniaeth 3) Datblygu Gwydnwch a Dyfalbarhad. Cafodd bob un o’r amcanion hyn eu bodloni’
Athro – Ysgol Gynradd Coed Glas
‘Am wythnos wych. Mae llawer o ddisgyblion wedi datblygu sgiliau am oes a fydd yn eu helpu i bontio i Flwyddyn 7. Mae unigolion eraill wedi dod yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i wella. Diolch yn fawr’
Athro – Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin
Ymysg yr heriau mae croesi y tu ôl i raeadrau a neidio i mewn i byllau dyfnion, diogel
© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd
Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd