Rydym yn defnyddio detholiad gofalus o’r gweithgareddau hyn yn ystod rhaglen i sicrhau ein bod yn ateb eich amcanion. Rydym yn selio ein detholiad ar anghenion eich grŵp a’r tywydd.
Mae ein gweithgareddau yn cynnwys:
Caiacio a Chanŵio
Rydym yn defnyddio canŵod, caiacau, byrddau padlo eistedd a sefyll ar ystod o ddyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaeth Bannau Brycheiniog
Cerdded Bryniau
Mae cerdded yn weithgaredd poblogaidd iawn yn y Bannau Brycheiniog. Dysgwch sut i ddarllen map a defnyddio cwmpawd
Dringo Creigiau ac Abseilio
Dysgwch yr hanfodion yma cyn mentro mas ar greigiau mwy ym Morlais, Penalltau neu arfordir Gwyr
Anturio / Cerdded Ceunentydd
Ymysg yr heriau mae croesi y tu ôl i raeadrau a neidio i mewn i byllau dyfnion, diogel
Cyfeiriadu
Gan ddefnyddio nodweddion y tir a’r map, byddwch yn ffeindio eich ffordd o amgylch y cyrsiau