Anturio / Cerdded Ceunentydd

Mae Cerdded Ceunentydd yn y Bannau Brycheiniog hefyd yn weithgaredd poblogaidd iawn. Mae’n ddiwrnod gwych o

  • waith tîm
  • sgiliau cyfathrebu a
  • magu hyder

ac yn hwyl a sbri yng nghanol golygfeydd godidog.

Mae heriau’n cael eu gosod ar y daith yn unol â gallu’r grŵp. Ymysg yr heriau mae croesi y tu ôl i raeadrau a neidio i mewn i byllau dyfnion, diogel. Bydd pawb yn gwisgo cymhorthion arnofio, dillad dŵr a helmed.

Eto, bydd hyfforddwyr cymwys yn arwain y teithiau cerdded anturus hyn.

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd