
Mae’r Storey Arms â thrwydded Darparwr Gweithgaredd Cymeradwy Gwobr Dug Caeredin ar gyfer adran Alldaith a Phreswyl y wobr. Mae gennym yr awdurdod i gynnig gweithgareddau i’r adrannau hyn o’r wobr a chymeradwyo cyflawniadau’r rhai sy’n cymryd rhan.
Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid i gynnig hyfforddiant, ymarfer a gwobrwyo’r alldeithiau, ar bob lefel o’r wobr.
Rydym yn cynnal Cwrs Preswyl Aur Dug Caeredin bob blwyddyn lle mae’r cyfranogwyr yn dod ynghyd ag eraill o’r DU.
Adran Hirdeithiau
Rydym yn cynnig hirdeithiau cerdded bryniau a chanŵio ar bob lefel o’r Wobr – Efydd, Arian ac Aur.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag unedau Gwobr Dug Caeredin yn unig – nid ydym yn cynnig cyrsiau agored i unigolion ymuno â nhw.
Mae tair adran i’r elfen hirdaith:
Adran |
Efydd |
Arian |
Aur |
Hyfforddiant |
1 neu 2 ddiwrnod | 2 ddiwrnod | 2 neu 3 diwrnod |
Hirdaith ymarfer |
2 diwrnod / 1 noson | 3 diwrnod / 2 noson | 4 diwrnod / 3 noson |
Hirdaith gymhwyso
|
2 diwrnod / 1 noson
|
3 diwrnod / 2 noson
|
4 diwrnod / 3 noson
|

Gallwn ddarparu unrhyw un neu bob un o’r adrannau uchod i’ch cyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin. Efallai y byddwch eisiau inni ddarparu pecyn cyfan neu, os oes gennych sgiliau ac adnoddau yn eich tîm i hyfforddi’ch cyfranogwyr, gallwn ddarparu un hirdaith neu’r ddwy. Fel arall gallwch wneud yr holl drefniadau a byddwn yn darparu staff goruchwylio a/neu aseswyr cymwysedig.
Os ydych yn agos i’r Storey Arms, gellir cyflawni’r adran Hyfforddiant fel cyfres o sesiynau undydd; fel arall, rydym yn argymell penwythnos preswyl i gyflawni gofynion y wobr.
Fel arfer rydym yn cynnal yr hirdeithiau ymarfer a chymhwyso yn ardal Bannau Brycheiniog a de Cymru ond gallwn ddefnyddio ardal sy’n addas i’ch gofynion chi. Gallwn hefyd gynnig hirdeithiau cymhwyso lefel Aur ar gyfer cerdded bryniau yn ardaloedd mynyddoedd Ffrainc.
Os hoffech drafod eich gofynion, mae croeso i chi ein ffonio neu anfon ffurflen ymholi
I gael rhagor o wybodaeth am adran hirdeithiau Gwobr Dug Caeredin ewch i wefan Gwobr Dug Caeredin.
Adran Breswyl – lefel Aur yn unig
Dim ond ar gyfer lefel Aur Gwobr Dug Caeredin mae angen cwblhau adran Breswyl. Mae Gwobr Dug Caeredin yn esbonio:
“Byddwch yn treulio pum niwrnod a phedair noson yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhanedig a gwerth chweil gyda phobl nad ydych erioed wedi eu cyfarfod. Bydd DofE preswyl yn rhoi hwb i’ch annibyniaeth ac mae’n ffordd dda o adael ôl gadarnhaol ar eich bywyd a bywydau eraill.”
Fel arfer cynhelir ein Hwythnos Breswyl Lefel Aur yn ystod gwyliau ysgol yr haf ac mae’n agored i gyfranogwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Manylion wythnos eleni:
21-25 Awst 2023 : £220 y pen
[mae’n bosibl y bydd cyllid rhannol neu lawn ar gael i ddisgyblion a chyn-ddisgyblion uwchradd Cyngor Caerdydd – dylech gysylltu â’r Ganolfan i gael manylion]
Mae’r rhaglen pump diwrnod, pedair noson hon yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ichi, gan gynnwys gweithgareddau awyr agored fel cerdded ceunentydd, ogofa, dringo, canŵio/caiacio, cerdded bryniau, cyfeiriannu a llawer mwy.
Byddwch yn cymryd rhan ym mywyd domestig y ganolfan, yn helpu yn y gegin i baratoi rhai o’r prydau bwyd, a gallwch fwynhau cwrdd â phobl ifanc â meddylfryd tebyg o dde Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Rhyngoch chi a’n tîm staff cymwysedig, profiadol a brwdfrydig bydd yn wythnos i’w chofio!
Mae’r gost yn cynnwys llety, bwyd, cyfarwyddyd, cyfarpar arbenigol a chludiant unwaith y byddwch yn y Ganolfan. Gellir trefnu codi/gollwng yng ngorsaf reilffordd / fysiau Caerdydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2023. Ar ôl yr adeg honno, ffoniwch ni yn gyntaf i weld a oes lleoedd ar gael o hyd.
I wneud cais, anfonwch e-bost storeyarms@caerdydd.gov.uk