Rhaglenni
Amrywiaeth o raglenni i gwrdd ag amcanion addysgol, datblygu gwaith tîm, hyfforddi arweinwyr awyr agored a chael hwyl!
RHAGLENNI ADDYSGOL
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni addysgol sy’n cynnig cyfleoedd mewn amrywiaeth of feysydd cwricwlwm, addysg bersonol a chymdeithasol a gweithio mewn tîm.
Mae ein staff addysgu yn teilwra ein rhaglenni i gyflawni eich nodau a’ch amcanion ar gyfer pob ymweliad.
Gweler ein hystod o raglenni addysgol isod
DIGWYDDIADAU TÎM CORFFORAETHOL
Amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau a sefydliadau gan gynnwys datblygu tîm ffurfiol ac anffurfiol, hwyluso cyfarfodydd a llogi cyfleusterau.
Cyfunwch eich sesiwn pennu amcanion gyda gweithgaredd er mwyn cynnig diwrnod cynhyrchiol a phleserus i ffwrdd o’r swyddfa.
CYMWYSTERAU HYFFORDDIANT MYNYDD
Rydym yn ddarparwr ar gyfer Hyfforddiant Mynydd Cymru ar gyfer ystod o wobrau sgiliau arweinyddiaeth a phersonol.
Cerdded y Bryniau – Arweinydd Mynydd, Arweinydd Bryniau a Gweundir, Arweinydd Iseldir – Sgiliau Bryn a Mynydd
Dringo Creigiau – Hyfforddwr Dringo Creigiau, Hyfforddwr Wal Ddringo ac eraill
Rhagor o wybodaeth
YSGOLION PRESWYL
Mae ein canolfannau preswyl addysg awyr agored ar gael i ysgolion o’r DU a thramor.
Mae gweithgareddau awyr agored diwrnod llawn a gweithgareddau gyda’r nos mewn canolfannau yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu a rhannu profiadau gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon.
Rhagor o wybodaeth
TGAU / BTEC / LEFEL A
Gallwn deilwra rhaglen i gwrdd â gofynion cwricwlaidd ar gyfer ystod o bynciau .
Addysg Gorfforol – cerdded y bryniau, canŵio, dringo creigiau
BTEC – Gwasanaethau Cyhoeddus
Bagloriaeth Cymru
Seren
YMWELIADAU DYDD
Mae ein hymweliadau dydd yn cwmpasu amcanion cwricwlaidd, datblygu gwaith tîm neu yn syml yn rhoi cyfle i gael hwyl ac ymarfer corff!
Diwrnodau Dysgu Awyr Agored
Diwrnodau Astudio: Mynyddoedd/Afonydd
Diwrnodau Datblygu Tîm
Diwrnodau Gweithgaredd
Rhagor o wybodaeth
ASTUDIAETHAU / DATBLYGIAD ÔL-16
Rhaglenni i ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith megis arweinyddiaeth, gwaith tîm a datrys problemau i lefel uwch.
Rydym yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu ac ymarfer y sgiliau hyn mewn sefyllfaoedd sy’n arwain at ganlyniadau go iawn.
GWOBR DUG CAEREDIN
Darparwr Gweithgareddau Cymeradwy ar gyfer Alldeithiau (ar bob lefel Gwobr) a’r Wobr Aur Preswyl
Gallwn gefnogi unedau Gwobr Dug Caeredin wrth ddarparu holl elfennau’r Alldaith
Mae ein Rhaglen Wobr Aur Preswyl yn agored i unigolion o’r DU
Rhagor o wybodaeth
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
Gall yr amgylchedd awyr agored gynnig profiadau pwerus i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gall ein staff profiadol deilwra gweithgareddau i weddu i anghenion corfforol ac emosiynol grwpiau.
Gallwn groesawu grwpiau bach o ddisgyblion ar gyfer arosiadau preswyl.
Rhagor o wybodaeth
RHAGLENNI IEUENCTID
Cyfunwch eich gwaith datblygu ieuenctid gyda gweithgareddau awyr agored er mwyn rhoi profiad cofiadwy a hwyliog.
Gallwn deilwra arhosiad preswyl i gynnwys sesiynau hunan-raglennu gyda gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan ein staff.