Hyfforddiant a Chymwysterau

Ydych chi am arwain grwpiau yn yr awyr agored neu ddatblygu eich sgiliau awyr agored eich hun?

Ers dros 30 mlynedd, mae Canolfan Storey Arms wedi bod yn brif ddarparwr cyrsiau hyfforddi ac asesu gwobrau arweinyddiaeth Hyfforddiant Mynydd.  Mae’r rhain yn galluogi oedolion i arwain grwpiau cerdded bryniau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau awyr agored.

Dilynwch y ddolen i gael gweld ein cyfleoedd hyfforddiant presennol ar gyfer 2021.

Cerdded Bryniau

Rydym yn cynnig y rhaglenni cerdded bryniau canlynol i’r rheiny sydd am arwain grwpiau:

  • Arweinydd Tir Isel
  • Hyfforddiant Arweinydd Bryniau a Gweunydd
  • Arweinydd Mynydd – Haf

Os nad ydych am arwain grwpiau o bobl eraill ond eich bod am ddysgu a datblygu eich sgiliau cerdded bryniau eich hun, rydym yn cynnig:

  • Sgiliau Cerdded Bryniau
  • Sgiliau Mynydda

 

Os nad ydych yn siŵr pa gynllun yw’r gorau i chi, ewch i’r wefan Mountain Training yma.

Dringo Creigiau

I’r rhai sydd â diddordeb mewn dringo creigiau, rydym yn cynnig y canlynol:

  • Hyfforddwr Wal Dddringo
  • Hyfforddwr Dringo Creigiau

 

Mewn cysylltiad â darparwr lleol, Manzoku Climbing and Mountaineering, gallwn hefyd gynnig:

  • Cynorthwy-ydd Dringo Dan Do
  • Hyfforddwr Datblygu Wal Ddringo
  • Sgiliau Creigiau – pob lefel

 

Os nad ydych yn siŵr pa gynllun yw’r gorau i chi, ewch i’r wefan Mountain Training yma.

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd