Ymweliadau Preswyl Ysgolion

Rydym yn cynnal ymweliadau preswyl addysg awyr agored cyffredinol gydol y flwyddyn i ddisgyblion cynradd ac uwchradd

Mae ymweliad preswyl â’r Storey Arms yn gyfle delfrydol i blant archwilio a darganfod pethau, am y byd naturiol a hefyd amdanyn nhw eu hunain a phobl eraill.

MANTEISION YMWELIAD PRESWYL

Bydd ymweliad preswyl â Chanolfan Storey Arms yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc sy’n dod, effaith sydd yn aml yn newid bywydau.

Storey Arms - Bannau Brycheiniog

Ymhlith y deilliannau dysgu manteisiol i ddisgyblion wrth ymweld â’r Storey Arms mae

  • Helpu’r disgyblion i sylweddoli bod cadw’n heini, bwyta a chysgu’n dda yn agweddau pwysig ar eu lles
  • Bod yn ymwybodol y gallai eraill gael pethau penodol yn anoddach nag y maen nhw’n eu cael ac felly y gallai fod angen help a chymorth arnynt
  • Rheoli a chyfathrebu eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain, gwella iechyd meddwl a galluogi’r disgyblion i fod yn fwy ymwybodol o rai pobl eraill
  • Parchu lle, eiddo a barn bersonol cyd-ddisgyblion
  • Meithrin chwilfrydedd tuag at yr amgylchedd naturiol, y ffyrdd y mae prosesau ffisegol a dynol wedi, ac yn parhau i, effeithio arno a datblygu strategaethau i wella eu camau gweithredu eu hunain i sicrhau cynaliadwyedd.

Ymhlith y manteision i athrawon mae

  • Gwell lefelau o wybodaeth, sgiliau, gwrando a dealltwriaeth
  • Effaith ar gyflawniad
  • Gwell perthnasau rhwng y disgyblion a rhwng y disgyblion a staff yr ysgol

Mae ymweliad preswyl hefyd yn cyfrannu at ‘Bedwar Diben’ y cwricwlwm newydd i Gymru, yn ogystal â ‘Chwe Maes Dysgu a Phrofiad’.   Hefyd, mae nifer o ‘Ddatganiadau Beth sy’n Bwysig’ mewn gwahanol feysydd yn berthnasol.

Mae’r cyfraniadau hyn tuag at y cwricwlwm newydd yn aml yn gysylltiedig ag ymweliad a’r gweithgareddau, ond gallwn eu gwneud yn fwy pendant os yw staff sy’n ymweld am ganolbwyntio ar agweddau penodol.

Y RHAGLEN

Rydym yn teilwra ein rhaglenni preswyl fel eu bod yn cyd-fynd â nodau trefnydd yr ymweliad ac anghenion a galluoedd y grŵp.  Rydym yn dewis o ystod o weithgareddau gan gynnwys cerdded ceunentydd, ogofa, canŵio (a chychod eraill!), cerdded bryniau, dringo creigiau, ynghyd â gweithgareddau byrrach ar y safle.  Gallwch weld mwy o fanylion am bob gweithgaredd yma.  [Link to Activities section in new tab]

Fel arfer rydym yn canolbwyntio ar wneud un prif weithgaredd yn ystod y dydd.  Mae hyn yn galluogi’r disgyblion i gymryd rhan lawn yn y gweithgaredd, i wella eu sgiliau ac i fagu gwydnwch trwy gydol y dydd.   Yn achlysurol, gallem rannu’r dydd yn ddau weithgaredd.  Mae rhai gweithgareddau’n cyd-fynd yn well â’i gilydd nag eraill a byddwn yn trafod hyn gyda’r staff sy’n ymweld cyn yr ymweliad neu wrth gyrraedd.

Rydym yn dylunio’r holl sesiynau er mwyn annog dysgu:

  • Yn rhan ohonynt mae angen i’r disgyblion gydweithio, annog ei gilydd, dyfalbarhau a rheoli eu gwydnwch.
  • Rydym yn herio’r disgyblion trwy addysgu gweithgareddau newydd iddynt mewn gwahanol amgylcheddau, gan eu galluogi i ddarganfod pethau newydd amdanyn nhw eu hunain a phobl eraill.
  • Rydym yn annog y disgyblion i wneud rhywbeth sydd ychydig yn wahanol i’r arfer.   Rydym yn gwneud hyn mewn ffordd ddiogel, gyda’r hyfforddwr yn rheoli’r sefyllfa a’r deilliannau’n ofalus.
  • Canoe problem-solving
  • Storey Arms View
  • Kayaking
  • Gorge Walking

Mae rhai ysgolion yn cynnal mwy nag un ymweliad â’r Storey Arms yn ystod y flwyddyn academaidd, gyda gwahanol grwpiau blwyddyn ar bob ymweliad.  Rydym yn teilwra’r rhaglenni fel y bydd y disgyblion sy’n dychwelyd yn gwneud naill ai gwahanol weithgareddau ar bob ymweliad, neu efallai’n gwneud yr un gweithgareddau ond mewn lleoliad gwahanol, sydd yn aml yn fwy heriol, neu’n cyflawni gwahanol ddeilliannau dysgu.

Rydym yn gweithio gydol y flwyddyn, ac yn achlysurol iawn, gall y tywydd gyfyngu ar ein dewis o weithgareddau neu leoliadau.   Mae hyblygrwydd y rhaglen a phrofiad ein tîm hyfforddi’n sicrhau ein bod yn dal i fodloni eich nodau ar gyfer yr ymweliad.  Mewn gwirionedd, gall weithiau gynnig cyfleoedd cyffrous nad ydynt ar gael fel arfer.

Amlinelliad o Raglen Enghreifftiol

Bydd rhaglen breswyl nodweddiadol yng Nghanolfan Storey Arms fel a ganlyn:

Cyrraedd y Storey Arms am 10.30am

Rydym yn croesawu’r disgyblion i’r ganolfan gyda sesiwn friffio sy’n cynnwys:

  • ymgartrefu yn eu hystafelloedd gwely
  • taith o gwmpas y ganolfan
  • rhoi dillad ac offer iddynt o’r storfeydd

Mae’r disgyblion yn bwyta’r pecyn cinio y maen nhw wedi’i baratoi ar gyfer y diwrnod cyntaf, yn yr ystafell fwyta yn y ganolfan fel arfer, ond weithiau byddwn yn gallu gadael yn gynharach a chael cinio allan.

Rydym yn treulio’r prynhawn cyntaf yn gwneud gweithgaredd yn eu grwpiau gweithgareddau.

Rydym yn dychwelyd i’r ganolfan er mwyn i’r disgyblion ddychwelyd offer, cael cawod a gwisgo ar gyfer pryd gyda’r nos am 5.30pm.

Yn dilyn y pryd, bydd gweithgaredd gyda’r nos.  Mae’r rhain ar y safle fel arfer ac yn annog y disgyblion i ddysgu ac ymarfer sgiliau eraill megis cyfathrebu, datrys problemau, rhoi cymorth i’w gilydd, arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm.

Yn dibynnu ar adeg y flwyddyn, gallai’r gweithgareddau gyda’r nos ddigwydd yn y tywyllwch.   Yn aml gall hyn ychwanegu dimensiwn arall i’r gweithgaredd a gall herio’r disgyblion ymhellach mewn gwahanol ffyrdd.

Ar ôl y gweithgaredd gyda’r nos, pan fyddant yn fodlon bod popeth yn iawn, mae’r hyfforddwr ar ddyletswydd yn mynd adref gan adael y staff sy’n ymweld i reoli gweddill y noson.  Mae’r disgyblion yn treulio rhywfaint o amser yn gwneud eu brechdanau ar gyfer y diwrnod canlynol ac yn ymlacio cyn amser gwely.

8.00am
Brecwast – Mae staff sy’n ymweld yn goruchwylio brecwast sy’n cynnwys grawnfwydydd a thost.  Rydym yn annog y disgyblion i helpu i dacluso a golchi llestri ar ôl brecwast.

9.15am
Sesiwn Friffio’r Bore – Mae ein hyfforddwyr yn briffio’r grwpiau gweithgareddau ar wahân, gan esbonio pa weithgaredd sy’n cael ei wneud y diwrnod hwnnw, pa ddillad ac unrhyw offer ychwanegol y gallai fod eu hangen arnynt ac i asesu lles y grŵp.

Tua 10.15am
Gadael i wneud gweithgaredd y dydd

Tua 3.30 – 4.30pm
Dychwelyd i’r ganolfan, trefnu offer a chael cawod

5.30pm
Pryd gyda’r nos – mae ein Tîm Domestig yn paratoi ac yn gweini’r pryd gyda’r nos ond mae’r disgyblion yn helpu i dacluso a golchi llestri.  Rydym yn annog y disgyblion i gymryd rhan mewn dyletswyddau eraill o gwmpas y ganolfan.

6.45pm
Gweithgaredd gyda’r nos ac amser rhydd

Os ydych yn gadael yn y bore, mae’r disgyblion yn treulio’r bore olaf yn pacio a thacluso eu hystafelloedd cysgu, dychwelyd unrhyw offer y maent wedi’u defnyddio a sicrhau bod ganddynt eu heiddo i gyd.  Ein nod yw eich ffarwelio erbyn canol y bore.

Os ydych yn gadael ar ddiwedd y dydd, rydym yn hoffi i’r disgyblion fod wedi pacio, gwagio a thacluso eu hystafelloedd cysgu cyn i ni adael ar gyfer y gweithgaredd olaf.

Ein nod yw dychwelyd o’r gweithgaredd olaf gyda digon o amser i’r disgyblion gael cawod, trefnu’r ystafell sychu a chasglu’r hyn sy’n weddill o’u heiddo, cyn i chi adael y ganolfan.

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd