Anghenion Dysgu Ychwanegol

Rydym yn croesawu disgyblion o amrywiaeth o leoliadau ADY, o ysgolion cynradd yn ogystal ag Uwchradd

Mae gan ein tîm o diwtoriaid awyr agored brofiad helaeth o weithio gyda disgyblion, ac oedolion, sydd ag anabledd dysgu. Mae’r dyfnder hwn o wybodaeth a phrofiad yn eu galluogi i addasu ein gweithgareddau yn dibynnu ar anghenion y grŵp.

Rydym yn dewis lleoliadau ein gweithgareddau’n ofalus i’n galluogi i herio disgyblion unigol i’r graddau sy’n briodol i’w gwahanol alluoedd, tra’n sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael hwyl.

Mae deilliannau dysgu ymweliad â’r Storey Arms yn cynnwys:

  • gwell hunanddibyniaeth – rheoli gofal personol, gwisgo ar gyfer gwahanol weithgareddau, gofalu am eiddo
  • dysgu bod oddi cartref mewn lleoliad preswyl gwahanol
  • mwynhau profiadau newydd – drwy’r gweithgareddau, mewn amgylchedd awyr agored, bwyd newydd!
  • cael hwyl gyda staff addysgu a chyd-ddisgyblion

Mae llawer o ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbennig Cyngor Caerdydd yn dewis y Storey Arms ar gyfer eu hymweliad preswyl. Rydym yn ddigon agos i’r disgyblion ddod i ymweld â’r ganolfan cyn eu cyfnod preswyl, a all fod yn ddefnyddiol i ddisgyblion sy’n bryderus am leoedd a phrofiadau newydd.

Mae gennym uned gysgu fach a hunangynhwysol yn yr Adeilad Newydd. Mae’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau bach pan fydd gennym grŵp arall yn aros. Gall y rhyngweithio cadarnhaol rhwng disgyblion o wahanol ysgolion (gydag anabledd dysgu a hebddo) fod yn brofiad gwerthfawr i bawb!

Neidio mewn pyllau – cael hwyl gyda’n gilydd
Cerdded ceunentydd – ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth
Canŵio ar y gamlas – gwaith tîm

Amlinelliad o Raglen Enghreifftiol

Rydym yn cynllunio ac yn teilwra pob rhaglen i gyd-fynd â nodau’r arweinydd sy’n ymweld ac anghenion a galluoedd pob grŵp. Mae amseru drwy gydol y dydd yn tueddu i fod yn hamddenol a hyblyg, er ein bod yn ceisio cadw at weini swper am 5.30pm.

Cyrraedd y Storey Arms am 10.30am

Rydym yn croesawu disgyblion i’r ganolfan gyda sesiwn friffio sy’n cynnwys:

  • ymsefydlu i’w hystafelloedd gwely
  • taith o amgylch y ganolfan
  • rhoi dillad ac offer iddynt o’r storfeydd

Mae disgyblion yn bwyta’r pecyn cinio y maen nhw wedi’i baratoi ar gyfer y diwrnod cyntaf, yn yr ystafell fwyta yn y ganolfan fel arfer, ond weithiau byddwn yn gallu gadael yn gynharach a chael cinio allan.

Rydym yn treulio’r prynhawn cyntaf yn gwneud gweithgaredd yn eu grwpiau gweithgareddau.

Rydym yn dychwelyd i’r ganolfan mewn pryd i’r disgyblion hongian eu hoffer yn yr ystafell sychu, cael cawod a newid. Maent yn cael cyfnod byr o amser rhydd cyn eu pryd gyda’r nos am 5.30pm

Gall arweinwyr sy’n ymweld ddewis a ddylid cael gweithgaredd gyda’r nos neu helpu eu disgyblion i fwynhau noson oddi cartref drwy chwarae gemau neu wylio DVD!

Pan fyddant yn fodlon bod popeth yn iawn, mae’r hyfforddwr ar ddyletswydd yn mynd adref gan adael y staff sy’n ymweld i reoli gweddill y noson. Os yw’n briodol, gall y disgyblion helpu arweinwyr sy’n ymweld i baratoi eu brechdanau ar gyfer y diwrnod canlynol ac yna ymlacio cyn amser gwely.

Dyma lle gall y rhaglen fod yn hyblyg o ran amseru a sut y gwneir pethau.  Bydd ein staff yn trafod sut i strwythuro’r diwrnod orau gydag arweinwyr sy’n ymweld wrth gyrraedd.

8.00am
Brecwast – Mae staff sy’n ymweld yn goruchwylio brecwast sy’n cynnwys grawnfwydydd a thost. Rydym yn annog disgyblion i helpu i dacluso a golchi llestri ar ôl brecwast.

9.15am
Sesiwn Friffio’r Bore – Mae ein hyfforddwyr yn briffio’r grwpiau gweithgareddau ar wahân, gan esbonio pa weithgaredd sy’n cael ei wneud y diwrnod hwnnw, pa ddillad ac unrhyw offer ychwanegol y gallai fod eu hangen arnynt ac i asesu lles y grŵp.

Tua 10.15am
Gadael i wneud gweithgaredd y dydd

Tua 3.30 – 4.30pm
Dychwelyd i’r ganolfan, trefnu offer a chael cawod

5.30pm
Pryd gyda’r nos – mae ein Tîm Domestig yn paratoi ac yn gweini’r pryd gyda’r nos ond mae disgyblion yn helpu i dacluso a golchi llestri. Rydym hefyd yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn dyletswyddau eraill o amgylch y ganolfan.

6.45pm
Gweithgaredd gyda’r nos ac amser rhydd

Os ydych yn gadael yn y bore, bydd y disgyblion yn treulio’r bore olaf yn pacio ac yn tacluso ystafelloedd cysgu, gan ddychwelyd unrhyw offer y maent wedi’i ddefnyddio a gwneud yn siŵr bod ganddynt eu holl eiddo. Ein nod yw eich cael i ffwrdd erbyn canol y bore.

Os ydych yn gadael ar ddiwedd y dydd, rydym yn hoffi i ddisgyblion fod wedi pacio, gwagio a thacluso eu hystafelloedd cysgu cyn i ni adael ar gyfer y gweithgaredd terfynol.

Ein nod yw dychwelyd o’r gweithgaredd terfynol gyda digon o amser i ddisgyblion gael cawod, trefnu’r ystafell sychu a chasglu’r hyn sy’n weddill o’u heiddo, cyn i chi adael y ganolfan.

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd