Ymweliadau Dydd

Mae Canolfan Storey Arms gwta 45 munud i’r gogledd o Gaerdydd, sy’n gwneud ymweliadau dydd yn hawdd eu trefnu.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ymweliadau dydd i grwpiau o bob oedran.

Os ydych chi’n chwilio am ymweliad diwrnod ysgol, darllenwch ein taflenni i Ysgolion Cynradd ac Uwchradd – byddan nhw’n esbonio manteision yr hyn sydd gennym ni i’w gynnig ar bob lefel addysgol.

Dyma beth rydym yn ei gynnig ar bob un o’r diwrnodau canlynol

Ar gyfer prisiau a dyddiadau sydd ar gael, anfonwch eich gofynion atom drwy ein Ffurflen Gyswllt

Ffurflen Gyswllt

Orienteering

Dysgu Awyr

Agored

Discovering wildlife

Astudiaeth

Mynydd

Orienteering

Astudiaeth

Afon

Problem Solving

Rhaglen

Datblygu Tîm

Gorge walking group

Diwrnodau

Gweithgareddau

Diwrnod Dysgu Awyr Agored

Rydym yn seilio ein diwrnodau dysgu awyr agored yn y Ganolfan a’r ardal o’i hamgylch. Mae is-grwpiau’n cymryd rhan mewn detholiad o dasgau yn y bore, fel y tŵr dringo, llwybr rhaff goedwig, cyfeiriannu, tasgau datrys problemau.

Mae’r grŵp yn treulio’r prynhawn ar daith gerdded antur fach neu daith gerdded ar y bryniau lleol – cyfle i grwydro yn yr awyr agored!

Amserau safonol:         Cyrraedd am 10.00am / Gadael am 2.30 pm

Mae angen i grwpiau ddarparu eu pecyn cinio/diod eu hunain

Diwrnod Astudiaeth Mynydd

Mae ein Diwrnodau Astudiaeth Mynydd yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau cynradd sy’n astudio Mynyddoedd a/neu Barciau Cenedlaethol.

O fewn taith gerdded fer o’r ganolfan, gall disgyblion weld ystod eang o nodweddion y gallant fod wedi’u hastudio eisoes yn yr ystafell ddosbarth:

  • Daeareg – creigiau, erydu
  • Cyrsiau dŵr – ffynhonnau, nentydd, afonydd
  • Planhigion Mynydd
  • Pryfed, adar, anifeiliaid mynydd
  • Tywydd
  • Effaith dyn ar natur a’i berthynas â thirwedd y mynydd
  • Nodweddion, buddion a gweithrediad Parc Cenedlaethol
  • Harddwch naturiol yr ardal yn cael ei thrafod a’i hystyried

Amserau safonol:         Cyrraedd am 10.00am / Gadael am 2.30 pm

Mae angen i grwpiau ddarparu eu pecyn cinio/diod eu hunain

Diwrnod Astudiaeth Afon

Gallwch leoli eich Diwrnod Astudiaeth afon TGAU a Safon Uwch yng nghanolfan Storey Arms

Mae’r Afon Tarrell yn codi’n agos at y ganolfan ac yn mynd drwy amrywiaeth o dirweddau cyn cyrraedd Aberhonddu 9 milltir i’r gogledd.

Gall ein hyfforddwyr eich tywys i fannau mynediad addas a darparu sicrwydd diogelwch.

Gallwch ategu eich gwaith maes ymarferol gyda sesiwn ystafell ddosbarth yn ein hystafell addysgu.

Amserau safonol:         Cyrraedd am 10.00am / Gadael am 2.30 pm

Mae angen i grwpiau ddarparu eu pecyn cinio/diod eu hunain

Diwrnod Datblygu Tîm

Mae ein Diwrnodau Datblygu Tîm yn addas ar gyfer

  • Disgyblion Chweched Dosbarth
  • Aelodau grwpiau ieuenctid
  • Timau staff ysgol a
  • Thimau Busnes

Rydym yn defnyddio tir Canolfan Storey Arms a’r ardal o’i chwmpas.

Mae gennym ddetholiad o brojectau sy’n annog gwaith tîm, cyfathrebu, ymddiriedaeth, rheoli amser ac adnoddau.

Gallwch gyfuno un o’n prosiectau gyda’ch sesiwn fewnbwn eich hun, megis sesiwn gosod amcanion tîm, i wneud diwrnod gwerthfawr y tu allan i’r ysgol neu eich gweithle.

Amserau safonol:         Cyrraedd am 10.00am / Gadael am 3.30 pm

Mae angen i grwpiau ddarparu eu pecyn cinio/diod eu hunain

  • Gall arlwyo gael ei drefnu am gost ychwanegol
    (hyn a hyn o leoedd sydd ar gael)

Diwrnodau Gweithgareddau

Mae ein cleientiaid yn defnyddio ein Diwrnodau Gweithgareddau ar gyfer dysgu sgil newydd, adeiladu tîm anffurfiol neu ddim ond i gael hwyl!

Gallwch ddewis un gweithgaredd ar gyfer y diwrnod – cyn i chi gyrraedd fel arfer – o’r rhestr isod:

  • Ogofa
  • Cerdded ceunentydd
  • Canŵio / Padlfyrddio / Caiacio â’ch Coesau’n Rhydd
  • Cerdded Bryniau
  • Dringo creigiau ac abseilio (misoedd yr haf yn unig)

Os nad yw’r tywydd yn addas ar gyfer eich dewis weithgaredd, byddwn yn cynnig un arall i chi – byddwn yn sicrhau eich bod yn cael diwrnod da!

Amserau safonol:         Cyrraedd am 10.00am / Gadael am 3.30 pm

Mae angen i grwpiau ddarparu eu pecyn cinio/diod eu hunain

Ar gyfer prisiau a dyddiadau sydd ar gael, anfonwch eich gofynion atom drwy ein ffurflen gyswllt.

Ffurflen Gyswllt

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd