Hysbysiad Preifatrwydd Plant

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Am eich Gwybodaeth…

Mae rheolau ar sut i gadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel a sut y caiff ei rhannu. Mae’r rheolau hyn yn y gyfraith newydd, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae’r ddogfen hon yn dweud wrthych pam mae angen eich gwybodaeth arnom a beth rydym yn mynd i’w wneud gyda hi.

Mae Storey Arms yn rhan o Gyngor Caerdydd, felly rydym yn gweithio gyda’ch gwybodaeth yn yr un ffordd ag y byddai’r Cyngor yn ei wneud.

Pa Wybodaeth mae arnom ei hangen gennych?

Cyn eich taith i’r Ganolfan mae angen i ni wybod rhywfaint o wybodaeth er mwyn eich cadw’n ddiogel ac i’ch helpu i gael yr amser gorau gyda’ch ffrindiau:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich Dyddiad Geni
  • manylion cyswllt mewn argyfwng
  • problemau meddygol
  • manylion cyswllt eich meddyg
  • anghenion deietegol

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth gan…

  • eich ysgol
  • eich rhieni

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom?

Pan fo’r holl wybodaeth hon amdanoch chi gennym, gallwn…

  • sicrhau bod eich holl wybodaeth yn gywir
  • eich helpu i benderfynu ar y gefnogaeth orau a’ch helpu yn ystod eich cyfnod gyda ni gyda gweithgareddau neu ar adeg prydau bwyd
  • eich helpu os cewch chi ddamwain

Pryd rydyn ni’n rhannu’ch gwybodaeth…

Rydym yn sicrhau y caiff ei chadw’n ddiogel a byddwn yn dilyn y rheolau a osoda’r gyfraith.

Weithiau mae’n bosibl y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda…

  • aelodau eraill o staff Storey Arms
  • eich athrawon a’ch ysgol
  • tîm Iechyd a Diogelwch Cyngor Caerdydd
  • meddygon a nyrsys os cewch ddamwain
  • gwasanaethau cymorth a fydd yn helpu i’ch cadw’n ddiogel os ydym yn teimlo eich bod mewn perygl

Sut byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel?

Mae cyfrifoldeb ar y bobl yn Storey Arms a Chyngor Caerdydd sy’n gweld eich gwybodaeth i’w chadw’n ddiogel Felly os oes rhaid i ni rannu eich gwybodaeth, byddwn:

  • yn dweud wrthych pam mae ei hangen arnom
  • gofyn am yr hyn sydd ei hangen arnom yn unig
  • rhoi gwybod i chi os ydym yn ei rhannu, a ph’un a gewch chi ddweud na
  • ddim yn cadw eich gwybodaeth am fwy o amser nag sydd ei hangen arnom
  • yn ei chadw’n ddiogel!

Eich hawliau …

Mae gennych yr hawl i:

  • weld unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi
  • gofyn i ni newid unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi
  • gofyn i ni beidio â rhannu eich gwybodaeth (ond nid pan fo ei hangen arnom i gael cymorth i chi neu i’ch cadw’n ddiogel)
  • gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol o’n systemau
  • gofyn am yr hyn sydd ei hangen arnom yn unig

Gallwch gwyno os ydych yn credu nad ydym yn parchu eich hawliau

Mae Swyddog Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i helpu.

Rhagor o wybodaeth

Diolch am ddarllen hwn.

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â’r

Swyddog Diogelu Data
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Bae Caerdydd
CF10 4UW
E-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Gallwch hefyd gysylltu â:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

www.ico.org.uk

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd