Ffurflen Ymholiadau Bwcio Llety

Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin cyn cwblhau’r ffurflen – mae’n bosibl y bydd yr ateb i’ch cwestiynau yna!  Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni – bydd yn ein helpu i ymateb i’ch ymholiad yn gyflym.

Os nad ydych yn siŵr am rywbeth, nodwch “Dd/B” neu “Ddim yn siŵr” fel esboniad!

    Enw Sefydliad

    Enw Cyswllt

    Rhif Ffôn Cyswllt

    Cyfeiriad E-bost Cyswllt

    Ydych chi’n ysgol neu’n ganolfan ieuenctid a weithredir gan Gyngor Caerdydd?

    YdynNac ydyn

    A ydych chi/eich sefydliad erioed wedi ymweld â ni o’r blaen?

    DoNaddo

    Amser y flwyddyn / mis ar gyfer ymweliad:

    (Gweler y cwestiynau cyffredin am fanylion ein tymhorau prysur/canolig/tawel – bydd y prisiau'n amrywio rhwng tymhorau)

    Hyd arhosiad

    Dydd Llun - dydd dydd GwenerPenwythnos (Gyda’r nos Wener - dydd Sul)Dydd Llun - dydd Mercher NEU Ddydd Mercher - Dydd GwenerArall (nodwch)

    Os gwnaethoch roi tic o ran “Arall”, nodwch hyd amser ar gyfer eich arhosiad

    Amcangyfrif o faint grŵp (e.e. 10 – 20 / 20 – 30):

    Amcangyfrif o Arweinwyr:

    Sylwer, os nad ydych yn dod â grŵp mawr (35 +), mae'n debygol y byddwch yn rhannu'r ganolfan gyda grŵp priodol arall – yn enwedig yn ystod y tymor prysur.

    Ydych chi’n dymuno talu fel mai dim ond chi fydd â defnydd o’r ganolfan? ydwnac ydw

    Grŵp oedran (e.e. Blwyddyn 6, CA3, y chweched dosbarth, oedolion):

    Amcanion y rhaglen/gofynion (e.e. Gweithgareddau cyffredinol / TGAU / BTEC)

    Unrhyw ofynion perthnasol eraill

    Sut glywsoch chi am Ganolfan y Storey Arms?

    Dewiswch iaith ar gyfer gohebiaeth ynglŷn â’r ymholiad hwn

    SaesnegCymraeg


    Caiff y wybodaeth a roddwyd gennych ei phrosesu gan Ganolfan Storey Arms dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol, ond gellir ei rhannu ag adrannau perthnasol yn y Cyngor, gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn achos salwch/anaf neu pan fo hynny’n ofynnol gan y gyfraith.

    I gael rhagor o wybodaeth ar sut mae Canolfan Storey Arms yn rheoli data personol, darllenwch ein polisi preifatrwydd drwy’r ddolen ganlynol  Data Privacy Statement

    Cwestiynau cyffredin

    Hyd y cwrs

    Dydd Llun – dydd Gwener Cyrraedd am 11.00 am / Gadael am 11.00 am

    3 Diwrnod / 2 Noson – Cyrraedd am 10.30am / Gadael am 3.30 pm (neu’n gynharach os oes angen)

    Cyrraedd ar y penwythnos am 7.00pm / Gadael am 4.00pm (dim pryd yn cael ei ddarparu gyda’r nos, nos Wener)

    Ar gyfer arosiadau hyd gwahanol, byddwn yn cytuno ar amseroedd dechrau a gorffen gyda chi

    Prisiau’r Tymhorau

    Mae ymweliadau’n costio mwy neu lai ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, ar sail y flwyddyn academaidd. Mae’r tymhorau eleni fel a ganlyn:

    ALLAN O’R TYMOR

    19 Tachwedd 2018 – 24 Chwefror 2019

    CANOL TYMOR

    3 Medi – 18 Tachwedd 2018
    Gwyliau’r Pasg a Hanner Tymor mis Mai (yn seiliedig ar ddyddiadau gwyliau ysgol Cyngor Caerdydd)
    25 Chwefror – 24 Mawrth 2019
    22 Gorffennaf – 1 Medi 2019

    YN YSTOD Y TYMOR

    25 Mawrth – 21 Gorffennaf 2019
    Ac eithrio Gwyliau’r Pasg a Hanner Tymor mis Mai (yn seiliedig ar ddyddiadau gwyliau ysgol Cyngor Caerdydd)

    Isafswm Tâl

    Codir isafswm tâl sy’n cyfateb i 8 cyfranogwr ar grwpiau preswyl (6 chyfranogwr ar gyfer ysgolion a chanolfannau ieuenctid a redir gan Gyngor Caerdydd).

    Lleoedd Am Ddim i Arweinwyr

    Rydym yn cynnig 2 le am ddim i arweinwyr grwpiau sy’n cynnwys hyd at 20 o gyfranogwyr, 3 lle am ddim i grwpiau sy’n cynnwys 21 – 31 o gyfranogwyr, ac ati.

    Codir tâl am arweinwyr ychwanegol ar sail y gyfradd cyfranogwyr.

    Ar gyfer grwpiau ag anghenion arbennig cynigir dwywaith cymaint o leoedd am ddim i arweinwyr ar sail yr hyn a nodir uchod, gan godi 50% o’r gyfradd cyfranogwr ar arweinwyr ychwanegol.

    Cyfrifoldeb y sefydliad sy’n ymweld â ni yw’r gymhareb staff-cyfranogwyr. Nodwch ar y ffurflen os ydych am drafod hyn.

    Gwybodaeth Ychwanegol

    Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant, offer arbenigol a chludiant yn ystod y cwrs

    Cyfrifoldeb y grŵp yw teithio i ac o’r ganolfan

    Bydd angen i grwpiau ddod â’u pecyn cinio/diodydd eu hunain gyda nhw ar gyfer y diwrnod cyntaf (ac eithrio’r rheiny sy’n aros ar benwythnos)

    © Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd