Hysbysiad Preifatrwdd GDPR i Bobl Ifanc

Hysbysiad preifatrwydd GDPR
i bobl ifanc

Beth yw hyn?

Gwnaed deddf newydd sy’n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel – pethau fel eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a’ch rhif ffôn. Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms a phobl eraill yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am bob math o resymau, ac mae’r ddeddf newydd yn dweud wrthyn nhw beth yn union maen nhw’n cael ei wneud â’ch gwybodaeth chi.

Rydym yn casglu peth gwybodaeth am ymwelwyr â’n canolfan, fel chi. Ein gwaith ni yw dweud wrthych sut y byddwn yn casglu’r wybodaeth, sut y byddwn yn ei chofnodi a sut y byddwn yn ei defnyddio. Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms yn eiddo i Gyngor Caerdydd ac yn cael ei rhedeg ganddo.

Yn yr hysbysiad hwn, mae’n bosib y byddwch yn gweld enwau neu dermau gwahanol yn cael eu defnyddio nad ydych yn gyfarwydd â nhw, megis:

Rheolwr data

Mae’r person hwn (neu grŵp o bobl, fel Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms) yn gyfrifol am y wybodaeth a gasglwn.

Proseswr data

Mae’r person hwn yn prosesu gwybodaeth ar gyfer y rheolwr data.

Swyddog diogelu data

This person makes sure we do everything the law says.  Cardiff Council’s Information Governance Team  dataprotection@cardiff.gov.uk

Data personol

Mae hyn yn golygu unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod rhywun, fel eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni.

Pwy sy’n gofalu am eich gwybodaeth?

Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms yw rheolwr data’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni – rydym yn edrych ar sut a pham y caiff eich gwybodaeth ei chasglu a’i defnyddio.

Weithiau, mae’n rhaid i Ganolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms roi eich gwybodaeth i bobl eraill, ond dim ond pan fyddwch yn dweud ei bod yn iawn neu pan fydd y gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni y byddwn yn rhoi eich gwybodaeth i eraill. Pan fydd eich data yn cael ei roi i rywun arall, mae’n rhaid iddo ofalu amdano a’i gadw’n ddiogel.

Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth?

Byddwn ond yn casglu eich gwybodaeth pan fydd ei hangen arnom i’n helpu i wneud ein gwaith neu i ddilyn y gyfraith. Pan fyddwn wedi ei chasglu, dyma sut rydym yn ei defnyddio:

  • i gysylltu â chi a’ch rhieni/gofalwyr pan fydd angen i ni
  • i ddiogelu eich lles a dilyn gweithdrefnau diogelu
  • i asesu safon ein gwasanaeth
  • i gydymffurfio â’r gyfraith ynghylch rhannu data

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Mae’r categorïau gwybodaeth y mae Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms yn eu casglu, eu cadw a’u rhannu yn cynnwys y canlynol:

Eich gwybodaeth bersonol

Pethau fel eich enw a’ch cyfeiriad yw’r rhain.

Eich nodweddion

Mae hyn yn golygu gwybodaeth amdanoch chi, fel beth yw eich iaith gyntaf a phethau fel hynny.

Gwybodaeth feddygol

Os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol, er enghraifft, asthma neu ddiabetes, bydd angen i ni gael gwybod hyn er mwyn i ni allu eich helpu i fwynhau’r gweithgareddau’n ddiogel.

Eich anghenion unigol

Rydym yn casglu gwybodaeth sy’n helpu i wneud eich ymweliad yn well, fel bodloni eich anghenion deietegol a nodi unrhyw bryderon a allai fod gennych.

Ffotograffiaeth

Mae defnyddio ffotograffau ohonoch yn cyfrif fel prosesu eich data personol. Cyn i ni dynnu neu ddefnyddio unrhyw ffotograffau byddwn yn gofyn i chi (os ydych chi’n ddigon hen) neu’n gofyn i riant/gofalwr roi caniatâd i ni dynnu a defnyddio lluniau ohonoch.

Oes rhaid i chi roi’ch gwybodaeth i ni?

Mae’n rhaid i chi roi cryn dipyn o’r wybodaeth sydd ei hangen arnom, ond mae rhywfaint o wybodaeth y gallwch ddewis ei rhoi i ni ai peidio.

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth nad oes rhaid i chi ei rhoi i ni, byddwn yn gofyn am eich caniatâd ac yn rhoi gwybod i chi pam yr ydym am ei chael a beth y byddwn yn ei wneud â hi. Os nad ydych am i ni gael y wybodaeth, eich dewis chi yw hynny.

Am faint y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Ni fyddwn yn ei chadw am byth, dim ond cyhyd ag y mae ei hangen arnom i’n helpu i wneud pethau angenrheidiol. Mae gennym bolisi sy’n dweud wrthym pryd i’w chadw a phryd i’w thaflu.

A fydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu?

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd, oni bai bod y gyfraith yn dweud y gallwn neu y dylem wneud hynny. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â’r canlynol:

  • awdurdodau iechyd, e.e. rhag ofn salwch neu ddamwain
  • sefydliadau iechyd a lles cymdeithasol, e.e. pryderon diogelu
  • cynghorwyr proffesiynol ac ymgynghorwyr, e.e. pryderon diogelu
  • Heddluoedd, llysoedd, tribiwnlysoedd, e.e. gofyniad cyfreithiol

Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth gyda phobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal, a dim ond gyda’ch caniatâd chi y byddwn yn gwneud hynny. Os na fyddwch yn rhoi caniatâd i ni, gall hynny effeithio ar ein gallu i ofalu amdanoch.

Sut y byddwn yn cael gwared ar eich gwybodaeth?

Byddwn yn cael gwared ar unrhyw gofnodion papur gyda’ch gwybodaeth arnynt drwy ddefnyddio ein peiriant rhwygo ar y safle, sy’n dinistrio eich gwybodaeth yn ddiogel. Bydd unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu dileu, fodd bynnag, mae angen i ni gadw eich gwybodaeth am gyfnod penodol cyn y gallwn wneud hyn.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi a’ch rhieni/gofalwyr yr hawl i:

  • gael gwybod sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
  • gofyn am weld y wybodaeth a gedwir gennym
  • gofyn i ni newid unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi
  • gofyn i ni ddileu gwybodaeth pan nad oes ei hangen mwyach
  • gofyn i ni ond defnyddio eich gwybodaeth mewn ffyrdd penodol
  • dweud wrthym nad ydych am i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu

Os yw’r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn wybodaeth y gallwch ddewis peidio â’i rhoi, gallwch ddweud wrthym i roi’r gorau i’w chasglu unrhyw adeg.

Os ydych chi’n poeni am sut rydyn ni’n cael ac yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch siarad â Carolyn Cummings neu Claire Horwood yn y Ganolfan, a fydd yn gallu eich helpu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os ydych am siarad â rhywun y tu allan i’r Ganolfan, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyngor Caerdydd diogeludata@caerdydd.gov.ukneu ffonio’r bobl sy’n gofalu am wybodaeth, o’r enw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ar 0303 123 1113 neu ewch i’w gwefan www.ico.org.uk

Hoffech chi wybod mwy?

Os hoffech chi neu eich rhieni/gofalwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut rydym yn casglu, defnyddio a storio eich gwybodaeth bersonol, edrychwch ar ein polisi GDPR ar wefan Storey Arms www.storeyarms.com

Pedwar peth pwysig i’w deal

Nawr eich bod wedi darllen hwn, rydym yn gobeithio eich bod yn deall y canlynol:

  • mae’r gyfraith yn ein galluogi i gael gafael ar eich gwybodaeth a’i defnyddio i’n helpu i wneud ein gwaith.
  • efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill, ond dim ond pan fydd gwir angen i ni wneud hynny.
  • byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth pryd bynnag y bydd y dewis gennych.
  • gallwch ddweud wrthym i beidio â rhannu eich gwybodaeth, hyd yn oed pan fyddwch wedi dweud fel arall o’r blaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, bydd Carolyn Cummings neu Claire Horwood yn hapus i’ch helpu. Ffoniwch y Ganolfan ar 01874 623598.

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd