Rhaglenni Ieuenctid

Ysbrydoledig, cymhellol, datblygu hyder a hunan barch

  • General Activities
  • Orienteering
  • Bush Crafts
  • Youth Activities

Mae’r Storey Arms wedi gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth ieuenctid drwy gydol ei hanes, gan gynnig cyfleoedd preswyl ac ymweliadau dydd o safon.

Nod yr ymweliadau hyn yw:

  • ysbrydoli,
  • annog,
  • magu hyder, ac
  • annnog sgiliau adeiladu tîm, ac integreiddio.

Defnyddio’r awyr agored i gyflawni’r nodau hyn. Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal ar y penwythnos a thros wyliau’r ysgol.

Rotary Youth Leadership Awards

Gwobr Arweinydd Ieuenctid Rotary (RYLA)

Yn ystod gwyliau’r haf mae’r Storey Arms yn cynnal cynllun RYLA, ar ran Gymdeithas Clwb y Rotary. Noddir plant 16-17 oed gan sefydliadau lleol y clwb i fynychu’r cwrs preswyl, lle anogir sgiliau a rhinweddau arwain yn ystod wythnos o weithgareddau anturus.

Gweler yr erthygl a ysgrifennwyd gan fyfyriwr y llynedd isod:

Wrth gyrraedd y Storey Arms ym mis Awst, doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Gan mai fi oedd yr unig fyfyriwr o’m hysgol yng Ngwobr eleni, cyrhaeddais ar bigau’r drain ond yn awyddus i wneud ffrindiau newydd. Wrth edrych yn ôl ar sut nad oeddem yn nabod ein gilydd ar y diwrnod cyntaf i sut roedden ni’n rhoi cwtshys i’n gilydd wrth ffarwelio ac addo cadw mewn cysylltiad ar y diwrnod olaf, gwelais fod y profiad RYLA yn werthfawr ac yn newid bywyd. Roedd y cwrs yn heriol a gwnaeth i ni ystyried pob agwedd ar arwain o gymryd rheolaeth i fod yn amyneddgar.

Dwi’n credu’n gryf bod RYLA wedi fy helpu i ddod yn unigolyn mwy cyflawn, ac mae wedi’n bendant fy helpu i gwrdd â phobl ifanc gegog sy’n debyg i mi. Rydyn ni eisoes wedi bod yn trefnu amser a lle i gwrdd, ac rydym yn benderfynol o gael aduniad y flwyddyn nesaf. Mae hyn, yn fy marn i, yn gwneud cwrs fel RYLA mor arbennig. Mae’n dod â grŵp o bobl ifanc at ei gilydd ac yn eu galluogi i ddod yn ffrindiau bore oes gan hefyd ddysgu iddyn nhw beth yw arweinydd da. Ar ran fy holl ffrindiau RYLA a fi’n hun, diolch o galon i Storey Arms a Rotarians De Cymru am roi cyfle cystal i ni. Os oes unrhyw un arall a fydd yn 16 neu’n 17 oed fis Awst nesaf byddaf yn argymell yn gryf i chi wneud cais am le ar gwrs  y flwyddyn nesaf. Bydd hi’n werth chweil.

Gan Ellie Bennett

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd